Prosesu Iaith Naturiol - Beth ydyw a pham y dylech ymddiddori
Os ydych chi'n gofyn i Alexa ddweud jôc am dadau, yn meddwl sut gwnaeth Google ragfynegi'r cwestiwn chwithig roeddech chi'n ei ofyn, neu'n diolch i Word am gywiro gwallau gramadegol sylfaenol (diolch eto, hen gyfaill) rydym i gyd yn defnyddio Prosesu Iaith Naturiol fel rhan o'n bywydau beunyddiol. Mewn gwirionedd, mae cynnydd cyflym y technolegau hyn a'r gwaith cyson o ryddhau canlyniadau effeithiol i broblemau nad oeddem yn gwybod eu bod gennym, wedi'i wneud yn anodd dychmygu treulio diwrnod hebddo.
Ochr yn ochr â Dysgu Peirianyddol, mae Prosesu Iaith Naturiol yn faes Deallusrwydd Artiffisial lle rydym wedi gweld nifer o ddatblygiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ran Technoleg Gyfreithiol. Ond cyn inni drafod rhai o'i gymwysiadau cyfreithiol ystyrlon, gadewch inni fynd yn ôl am funud ac edrych ar hyn yw Prosesu Iaith Naturiol mewn gwirionedd, ac o le y daeth.
Mae Prosesu Iaith Naturiol yn cyfuno cyfrifiadureg, ieithyddiaeth a deallusrwydd artiffisial ac mae wedi'i wreiddio mewn datrys problemau drwy gymhwyso atebion technolegol sy'n prosesu ac yn dadansoddi iaith neu lafariad naturiol. Mae Prosesu Iaith Naturiol yn dyddio'n ôl i'r cyfnod ar ôl y rhyfel ar ddiwedd y 1940au. Tybir y gwnaeth Weaver a Booth ddechrau'r prosiect cyfieithu peirianyddol cyntaf ym 1946, a oedd wedi'i wreiddio'n naturiol mewn uchelgeisiau i ddatrys côd y gelyn. Fodd bynnag, gellir dadlau mai Chomsky a ddarparodd dealltwriaeth ieithyddol well o sut gellir torri iaith i rannau, yn ei gyhoeddiad 'Syntactic Structures' ym 1957, a gyflwynodd y syniad o ramadeg cynhyrchiol. Yn y pen draw, gwnaeth hyn alluogi ymchwil i iaith naturiol i ehangu i feysydd eraill o ddiddordeb, megis cydnabod llafariad.
Ers 1960, mae'r byd wedi gweld datguddiadau yn y maes, o ran datblygiad damcaniaethol ac o ran creu systemau go iawn. Yn y 1980au ac ar ôl hynny, dechreuodd y rhai a oedd yn gweithio yn y maes ganolbwyntio'n fwyfwy ar sut y gellid cymhwyso systemau i faterion bywyd go iawn. Dilyswyd y gobaith hwn ar adeg cyflwyno'r rhyngrwyd a'r twf mewn data a oedd ar gael ac yn barod i'w prosesu.
Os symudwn ymlaen at heddiw, nid oes angen imi eistedd a theipio ar fy HP ProBook er mwyn ceisio eich argyhoeddi bod technoleg wedi newid. Nid yw'n syndod i neb ein bod yn byw mewn cyfnod pan mae data mor werthfawr ag aur. Ac yn wir, mae'n gloddfa aur i wyddonwyr data sydd wedi bod yn gallu cyflawni llawer â hyn.
Ac eto, ac eithrio'r swyddogaethau rydym bellach yn gyfforddus â nhw, gall fod yn niwlog o hyd o amgylch ein safbwynt ynghylch cymwysiadau addawol Prosesu Iaith Naturiol mewn llawer o sectorau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'i ddefnyddio. Gadewch inni ystyried rhai o gymwysiadau mwyaf Prosesu Iaith Naturiol yn y sector cyfreithiol heddiw.
Awtomeiddio Dogfennau
Mae awtomeiddio dogfennau a rheoli contractau'n ddau faes lle mae Prosesu Iaith Naturiol wedi cael ei ymchwilio'n helaeth. Mae cyfarpar sydd wedi'i greu i gefnogi'r meysydd gwaith hyn yn ceisio cynorthwyo wrth greu dogfennau electronig. Gallai hyn gynnwys defnyddio rhannau o destun sydd eisoes yn bodoli er mwyn creu dogfen newydd. Er enghraifft, mewn rhai achosion bydd defnyddwyr yn mewnbynnu gwybodaeth berthnasol, megis manylion cleientiaid a chyflenwyr, ac yna caiff contract ei ddrafftio gan ddefnyddio'r wybodaeth hon. Ceir nifer o gynhyrchion awtomeiddio dogfennau ar y farchnad, megis NextChapter Docs, sy'n gweithio'n union fel hyn. Mae'r feddalwedd yn galluogi cwmnïau i adeiladu templedi a chreu ffurflenni cyfreithiol gan ddefnyddio testun sydd eisoes yn bodoli, wrth deilwra'r rhain ar gyfer y cleient dan sylw hefyd. Mae hyn yn cyflymu'r broses ar gyfer cwmnïau a chleientiaid, ond hefyd mae'n fwy effeithlon ac yn cael gwared â'r risg o wallau gan bobl. Dychmygwch yr holl gyfreithwyr sydd bellach yn gallu cael saib amser cinio! Fel y rhan fwyaf o'r datblygiadau pwysig, ar ôl cael eu mabwysiadu gallwn edrych yn ôl yn ddoeth a dweud pethau fel, "pam na wnaethom ni hyn 15 mlynedd yn ôl?". Pwy a ŵyr pam, ond gwell hwyr na hwyrach.
Darganfod Electronig
O ran darganfod electronig cyfreithiol, mae'r cyfarpar mwyaf cyffredin yn canolbwyntio ar ganfod materion fel tasgau adalw gwybodaeth, ac felly cânt eu defnyddio i ddod o hyd i destun perthnasol a'i nodi. Er enghraifft, efallai bydd cyfarpar sy'n cynorthwyo gwaith darganfod electronig yn gwneud y canlynol:
· Chwilio am ddogfennau sy'n berthnasol i'r defnyddiwr.
· Chwilio am ymadroddion neu eiriau allweddol mewn dogfennau, yn aml gan ddefnyddio dull "bag o eiriau" sy'n allyrru geiriau sy'n debyg i'r rhai mae'r defnyddiwr wedi chwilio amdanynt.
· Chwilio drwy gysyniadau, megis "dyled" sy'n cwmpasu mwy o ddogfennau nag y byddai chwilio â gair allweddol yn eu darparu.
Gadewch inni edrych ar enghraifft gyflym o sut y gellid cymhwyso hyn mewn gweithle:
Yn gynharach eleni, lansiodd Epiq, sy'n gwmni gwasanaethau cyfreithiol, system sy'n cynnig modelau wedi'u hyfforddi ymlaen llaw i gleientiaid i helpu wrth adolygu achosion ymgyfreitha.
Er bod y broses adolygu'n amrywio gan ddibynnu ar bob achos, ceir iaith a themâu cyffredin sy'n codi yn y rhan fwyaf o achosion. Mae'r system yn dal y rhain, gan nodi gwybodaeth ailadroddus a dogfennau allweddol i'w hadolygu ymhellach. Drwy ddefnyddio'r cyfarpar hwn, mae'r broses ymgyfreitha'n cael ei chyflymu'n sylweddol ar gyfer cyfreithwyr drwy amlygu'n ddigidol ac yn tynnu sylw at yr wybodaeth bwysicaf. Mae hyn yn enwedig o ddefnyddiol i gwmnïau sy'n trin materion tebyg yn rheolaidd, megis anghydfodau yn y gweithle. Yna caiff y modelau eu storio i'w defnyddio yn y dyfodol, felly pan fydd problem debyg yn codi, gellir cymhwyso'r model cyfatebol.
Ar y cyfan, mae hyn yn gwneud y broses darganfod electronig yn llawer symlach. Pam dechrau o'r dechrau bob tro os byddai modd i ddata presennol eich cefnogi?
Dadansoddi Anfonebu
Gellir cymhwyso'r syniad o ddefnyddio cyfarpar Prosesu Iaith Naturiol i amlygu'n ddigidol i'r broses anfonebu. Mae meddalwedd dadansoddi anfonebu'n ceisio disodli anfonebu drwy e-bost ac ar bapur, gan ryddhau timau cyfreithiol o dasgau megis adolygu anfonebau a llunio adroddiadau.
Gadewch inni ystyried enghraifft ddiweddar arall o sut gall Prosesu Iaith Naturiol helpu yn yr achosion hyn.
Mae Onit yn gwmni o'r Unol Daleithiau sydd wedi datblygu nodweddion newydd yn ddiweddar fel rhan o'i becyn InvoiceAI sydd bellach yn cynnwys adolygu anfonebau yn ogystal â dadansoddi anfonebau. I ddisgrifio hyn ymhellach, mae'r pecyn wedi cael ei hyfforddi gan ddefnyddio miliynau o daliadau anfoneb i nodi gwallau, megis gordaliadau a threuliau diangen. Yna gall y pecyn ddiwygio'r anfoneb yn gywir, ac felly leihau nifer yr anfonebau y mae angen i bobl eu hadolygu.
Ar y cyfan, mae technoleg dadansoddi anfonebu yn helpu gyda 3 agwedd yn benodol:
· Awtomeiddio tasgau yn y llif gwaith beunyddiol;
· Arbed arian; a
· Chreu data y gellir eu defnyddio ar gyfer adrodd a gwneud penderfyniadau.
Dyma ffordd arall y gellir cymhwyso cyfarpar Prosesu Iaith Naturiol i'r llif gwaith cyfreithiol traddodiadol i gefnogi staff.
Nid yw'r cymwysiadau uchod yn holl gynhwysfawr, ac mae Prosesu Iaith Naturiol yn ased pwysig i gwmnïau cyfreithiol ei gael er mwyn cefnogi staff. Fodd bynnag, mae'r gair 'cefnogi' yn allweddol yma. Er bod cyfarpar sy'n cymhwyso'r technegau hyn yn hynod gymhleth ac wedi'i hyfforddi'n drylwyr, maent yn gyfyngedig i'r hyn rydym yn caniatáu iddynt ei wneud. Mewn geiriau eraill, gallai'r cyfarpar dynnu termau neu ddogfennau perthnasol, nid yw hynny'n golygu ei fod yn deall ystyr y geiriau mae wedi'i hyfforddi i'w nodi. Mae digon o le i bobl ac i beiriannau o ran y llif gwaith beunyddiol.
Mae peiriannau'n addas iawn ar gyfer cwblhau tasgau ailadroddus sy'n cymryd llawer o amser, megis y rhain a drafodir uchod. Yn ffodus, dyma'r tasgau nad yw pobl wir am eu gwneud, fel mae'n digwydd. Felly, rydym yn debygol o weld digonedd o atebion a fydd yn helpu i chwyldroi arferion gweithio traddodiadol yn y dyfodol agos.