Dyfodol y Gyfraith, Gyda’n gilydd

Gyda’n gilydd, mae gennym y gallu i chwyldroi’r diwydiant. Mae technolegau arloesol, megis deallusrwydd artiffisial a’r gadwyn flociau, yn barod i weddnewid mynediad at gyfiawnder, penderfyniadau cyfreithiol a chyngor cyfreithiol.

Mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru (‘Y Lab’) yma i sbarduno datblygiadau yn y diwydiant a hybu twf mewn Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru a’r tu draw

 

Croeso i Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

Gwyliwch ein fideo isod am drosolwg byr o ddiben y Labordy a’r hyn y gallwn ni ei gynnig.

 
 

Ein Cenhadaeth

Mae technoleg yn gweddnewid ymarfer y gyfraith ac yn cyfeirio cyfraith y dyfodol. Mae’r esblygiad hwn yn her i egwyddorion, defodau ac arferiadau sefydlog. Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae wrth osod sylfeini ffordd newydd o ddychmygu ac ymarfer y gyfraith.

Gyda’n gilydd, gallwn arwain y chwyldro yn y diwydiant, gan gymell mabwysiad technolegau newydd a a sicrhau bod cyfreithwyr y genhedlaeth hon a rhai’r dyfodol yn barod i’w groesawu.

Trwy fanteisio i’r eithaf ar dechnolegau arloesol megis y gadwyn flociau, deallusrwydd artiffisial, cytundebau call a data mawr, gallwn ni weddnewid mynediad at gyfiawnder, darparu cefnogaeth seiliedig ar ddata i benderfyniadau cyfreithiol a hyrwyddo ffyrdd effeithiol, sythweledol newydd o gyflwyno cyngor cyfreithiol pwrpasol. Gallwn sicrhau hefyd fel cymuned bod technolegau trafferthus newydd sy’n camystumio’r terfynau cyfreithiol a moesol yn cael eu rheoleiddio’n ddyledus.

Rydym yn gweithredu ar draws tri dimensiwn, gan hyrwyddo arloesedd, ymchwil ac addysg mewn Technoleg Gyfreithiol, gyda’r nod o gyfrannu at ddatblygu cymuned gynhwysol, agored a chydweithredol yng Nghymru a’r tu draw.

Archwiliwch ein tri maes craidd isod.

Neu cysylltwch â ni i lunio dyfodol y gyfraith, gyda’n gilydd.

Arloesi

Arloesi

Mae’r sector cyfreithiol yn wynebu heriau sylweddol wrth dramwyo’r cyfleoedd a gyflwynir gan Technoleg Gyfreithiol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth glòs â chwmnïau cyfreithiol, busnesau newydd, sefydliadau cyhoeddus a rhai’r trydydd sector at ddeall yn well eu persbectifau a’u heriau unigryw a datblygu prototeipiau a datrysiadau i gynorthwyo’r sector i fabwysiadu Technoleg Gyfreithiol.  

Ymchwil

Ymchwil

Cefnogir gwaith y Lab gan y gwaith ymchwil blaen y gad i Technoleg Gyfreithiola ddatblygwyd gan Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â cholegau eraill yn y Brifysgol a sawl sefydliad partnerol arall yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Addysg

Addysg

Ein nod yw cynorthwyo cyfreithwyr y presennol a’r dyfodol i chwarae rôl weithgar wrth lunio dylanwad Technoleg Gyfreithiol ar y proffesiwn. Trwy goleddu ymrwymiad creadigol i’r gyfraith, dymunwn gydrannu’r profiad o ddatblygu ac ymchwilio i ddatrysiadau a datblygiadau mewn Technoleg Gyfreithiol, gan rymuso pawb i ddeall, defnyddio a datblygu Technoleg Gyfreithiol yn eu hymarfer.