TECHNOLEG GYFREITHIOL: DIM OND CHWIM?
Technoleg Gyfreithiol; dyma derm rwyf yn sicr y bydd y mwyafrif helaeth o wyddonwyr cyfreithiol eisoes wedi ei glywed sawl gwaith bellach. Naill ai fel academydd, myfyriwr, darlithydd, athro, neu ymchwilydd fel finnau, neu fel aelod o'r diwydiant cyfreithiol. Boed mewn cwmni cyfreithiol, cwmni sy'n cychwyn neu swyddfa gyfreithiol breifat, neu hyd yn oed mewn proffesiwn arall sy'n gweithio'n agos gyda'r sector cyfreithiol, mae'n debygol y byddwch wedi clywed am asedau crypto, tocynnau a chontractau clyfar, blockchain, deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio dogfennau neu feddalwedd rheoli ac adolygu contractau . Os ydych chi'n fwy brwdfrydig am gymwysiadau technoleg, awtomeiddio gwneud penderfyniadau, Rhaglennu Niwroieithyddol, contractau â thocynnau, dysgu peirianyddol, NFT, rhwydweithiau niwral, a gallai'r rhestr fynd ymlaen ac ymlaen.
Ac eto, dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, nid oedd y rhan fwyaf ohonom, gan gynnwys finnau, byth wedi clywed am yr offer anhygoel hynny o'r blaen, ac yn fwy na thebyg nid oeddem yn credu y byddem ni chwaith. Ond dyma ni, yn llawer agosach at wireddu ein breuddwyd ffuglen wyddonol. Mae llawer o resymau yn gyfrifol am y newid sydyn a charlamus hwn, ac maent yn ymestyn ar draws sbectrwm eang o achosion, gan gynnwys rhesymau ffeithiol megis y diffyg datblygu technegol o'r blaen a'r diffyg pŵer cyfrifiadol gofynnol i storio'r swm enfawr o ddata sy'n angenrheidiol wrth weithredu meddalwedd ac algorithmau mor gymhleth, a'r diffyg cyllid buddsoddi. Ond ceir ffactorau sefyllfaol hefyd, er eu bod yr un mor rymus, megis “trendio” a'r bwrlwm, sy'n hybu cyfranogiad sylweddol yn y diwydiant.
Yn y postiad hwn, hoffwn gyfeirio at ddau bwynt pwysig y dylai pobl eu cadw mewn cof yn fy marn i wrth feddwl am dechnoleg gyfreithiol.
Yr arsylwad cyntaf yr hoffwn ei drafod yn y postiad hwn, a'r pwysicaf yn fwy na thebyg yn fy marn i, yw pwysigrwydd cyfathrebu a chydweithio amlddisgyblaethol. Roedd y gyfraith yn arfer bod yn wyddor geidwadol (gellid dadlau am safbwynt elitaidd y gyfraith tuag at y gwyddorau eraill) a oedd wedi creu rhwydwaith caeedig dros y blynyddoedd, gan wrthod awgrymiadau, syniadau a newidiadau allanol. Am nifer o ddegawdau, roedd y gyfraith wedi gosod ei hagenda ei hun, gan fod yn hygyrch i'r arbenigwyr yn unig a chanddi duedd i lynu wrth y fethodoleg "os yw'n gweithio, nid oes angen ei newid", gan aros yn nes at y 1800au yn hytrach na 2021. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi dod yn amlwg "nad yw hi'n gweithio o hyd" ac efallai nad yw cadw ar wahân i weddill yr arloesi a gwrthod newid yn arfer gorau ar gyfer datblygu'r gyfraith. I'r gwrthwyneb, mae gweithio ar y cyd â chyfrifiadurwyr, arbenigwyr marchnata ac amrywiaeth o bobl broffesiynol eraill, yn rhoi mewnbwn ac atebion defnyddiol i lawer o broblemau sydd wedi'u geirio a rhai heb eu geirio, gydag amrywiaeth o syniadau ffres a gwaith creadigol i ddatrys problemau, gan brofi dylanwad cadarnhaol trafodaeth agored a rhannu gwybodaeth rhwng diwydiannau. Nid yw'n syndod bod ymchwil yn dangos yr un canlyniadau, gan fod cwmnïau cyfreithiol sydd hefyd yn cyflogi gweithwyr proffesiynol technegol, yn hytrach na dibynnu ar arbenigwyr cyfreithiol yn unig, yn dangos refeniw a chyfraddau twf sawl gwaith yn uwch na'r rhai sy'n glynu wrth y model traddodiadol. Mewn ychydig o eiriau, mae cyfathrebu amlddisgyblaethol yn gam tuag at elw, ar gyfer gwyddor gyfreithiol ac ar gyfer eich waled bersonol.
Mae'r ail bwynt yn ymwneud ag effaith y pandemig ar safbwynt y farchnad fyd-eang ac effaith ar bobl yr amharu anochel a achosodd y technolegau trawsnewidiol yn y diwydiannau perthynol. Gydag effaith Covid-19, daeth yn amlwg yn fuan y byddai parhad yr economi a busnesau yn seiliedig i raddau helaeth ar weithredu model busnes newydd a fyddai'n cael ei ategu gan y dechnoleg sydd ar gael. At hynny, oherwydd yr angen i newid yn gyflym, nid oedd meddwl dwywaith am fabwysiadu technolegau newydd nad oeddent wedi'u profi, a oedd fel arfer yn arafu pethau. Fodd bynnag, er bod y pandemig yn chwarae rôl benderfynol wrth dderbyn y newidiadau dieithr hyn a magu ymddiriedaeth ar eu cyfer, nid yw technoleg gyfreithiol wedi dod yn ateb nac yn ddatrysiad amgen yng ngoleuni pandemig COVID-19. Nid yw'n ddull ymdopi, wedi'i roi ar waith er mwyn ymateb i'r argyfwng. I'r gwrthwyneb, mae gallu technoleg i helpu i sbarduno arloesi yn y sector cyfreithiol wedi cael ei nodi ers talwm, ac mae gwyddonwyr wedi bod yn ymchwilio i gyfleoedd a dichonoldeb gweithredu technoleg mewn gwasanaethau cyfreithiol ers y 90au ac efallai cyn hynny. Gadewch inni beidio â gwneud y camgymeriad o ystyried Technoleg Gyfreithiol o safbwynt gwyddoniaeth neu duedd newydd sydd newydd ymddangos drwy gyd-ddigwyddiad fel ffordd o ymdopi â'r argyfwng sydyn.
Yn Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, cymeron y syniad hwn o waith cydweithredol a'i addasu ar gyfer ein realiti beunyddiol ein hunain. Gan ddod ag ymarferwyr, academyddion a llunwyr polisi at ei gilydd, ein gweledigaeth yw cymuned Technoleg Gyfreithiol newydd, agored, gynhwysol a chydweithredol, yn tyfu ac yn ymdrechu i arloesi bob amser. Gan gysylltu gweithwyr proffesiynol arbenigol ar draws amrywiaeth o feysydd sydd ag amrywiaeth o wybodaeth a chefndiroedd, rydym yn ymrwymedig i gyfrannu at wella'r sector cyfreithiol drwy archwilio datblygiadau Technoleg Gyfreithiol, ymchwilio i gymwysiadau newydd, datblygu atebion a chefnogi newid. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am Dechnoleg Gyfreithiol neu os oes gennych syniad am brosiect yr hoffech ei ddatblygu ymhellach, mae pob croeso i chi gysylltu â ni!