Arloesi
Mae’r sector cyfreithiol yn wynebu heriau o bwys wrth dramwyo’r cyfleoedd a gyflwynir gan Technoleg Gyfreithiol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth glòs â chwmnïau cyfreithiol, busnesau newydd, sefydliadau cyhoeddus a rhai’r trydydd sector at ddeall yn well eu persbectifau a’u heriau unigryw a datblygu prototeipiau a datrysiadau i gynorthwyo’r sector i fabwysiadu Technoleg Gyfreithiol.
Ein nod yw hyrwyddo cydweithrediad arloesol rhwng ymarferwyr y gyfraith, academyddion a thrydydd partïon eraill, gan gynnwys partneriaid mewn technoleg a gwneuthurwyr polisi, gan greu gofod lle gallwn ymateb ar y cyd i rychwant o heriau sy’n flaenoriaeth i’r sector cyfreithiol, megis trawsnewidiad digidol gwasanaethau cyfreithiol craidd, amddiffyn hawliau dynol a mynediad at gyfiawnder.
Rydym yn coleddu ac yn hyrwyddo syniadau arloesol, yn meithrin diwylliant o gynhwysiant yn y gymuned Technoleg Gyfreithiol eginol, ac yn datblygu adnoddau addysgol i hybu dealltwriaeth well o Technoleg Gyfreithiol ar draws y diwydiant.
Gan fyfyrio ar effaith technolegau ar y sector cyfreithiol, bwriedwn helpu i osod seiliau’r drafodaeth ar lefel polisi gyda golwg ar feithrin a chryfhau sector cyfreithiol ffyniannus, yng Nghymru a’r tu draw, sy’n cyflawni trawsnewidiad economaidd a chymdeithasol.
Rydym am fod yn gyfeirbwynt i unrhyw ymarferydd neu weithiwr proffesiynol perthnasol arall, boed yn rhan o gwmni cyfreithiol bach neu fawr, sydd am ddysgu rhagor am Technoleg Gyfreithiol a chwarae rhan ynddi. Credwn yn daer fod angen datblygu cymuned Technoleg Gyfreithiol agored, gynhwysol a chydweithredol, lle y bydd gan bob un ran bwysig i’w chwarae.
Themâu ymchwil yn Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton
CANOLFAN CYFIAWNDER TROSEDDOL A THROSEDDEG
Canolbwynt i waith ymchwil i faterion ynghylch trosedd a chyfiawnder
CANOLFAN YMCHWIL I SEIBERFYGYTHIADAU (CYTREC)
Asesu ac ymateb i fygythiadau yn y seiberofod
Cyngor cyfreithiol am ddim, ar y campws, gan fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol pro bono.
Ymchwil, trafodaeth, addysg a chyfnewidfa wybodaeth ynghylch plant a phobl ifanc.
SEFYDLIAD Y GYFRAITH AR FORGLUDIANT A MASNACH RHYNGWLADOL
Sefydlwyd i hybu ymchwil o’r safonau uchaf i feysydd morgludiant a masnach rhyngwladol.
Ymchwil
Cefnogir gwaith y Lab gan y gwaith ymchwil blaen y gad i Technoleg Gyfreithiol a ddatblygwyd gan Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â cholegau eraill yn y Brifysgol a sawl sefydliad partnerol arall yn y Deyrnas Unedig a thramor
Wrth adeiladu ar sylfaen y gwaith ymchwil yma a chydweithio â rhanddeiliaid ar draws y byd academaidd a’r sectorau preifat a chyhoeddus, mae’r Lab yn hyrwyddo ymchwil drwyadl a thrawsnewidiol ym maes Technoleg Gyfreithiol i dechnolegau newydd, gan astudio’r posibiliadau o’u rhoi ar waith yn y sector cyfreithiol a’u heffaith arno. Rydym yn ehangu terfynau ymchwil draddodiadol hefyd trwy ddefnyddio
technolegau newydd (e.e. data mawr, dysgu peirianyddol, safoni a phrosesu iaith naturiol), i gynorthwyo academyddion ac ymarferwyr sy’n magu mewnwelediadau newydd ar sail data i wybodaeth gyfreithiol (cyfraith achosion, deddfwriaeth, cyngor cyfreithiol ac yn y blaen).
Mae ein gwaith aml-themaol yn cwmpasu meysydd megis:
Rheoleiddio technolegau newydd
Newidiadau yn y proffesiwn cyfreithiol a ysgogir gan Technoleg Gyfreithiol
Cysyniadau ac egwyddorion cyfreithiol newydd ar gyfer technolegau newydd
Dadansoddeg gyfreithiol a gwyddor data
Hawliau digidol
Cyfiawnder algorithmig
Safoni wrth wneud defnydd o wybodaeth gyfreithiol
Awtomateiddio trwyddedu a rheoli eiddo deallusol
Hygyrchedd ymchwil i Technoleg Gyfreithiol
Y gadwyn flociau a chytundebau call
Addysg
Ein nod yw cynorthwyo cyfreithwyr y presennol a’r dyfodol i chwarae rôl weithgar wrth lunio dylanwad Technoleg Gyfreithiol ar y proffesiwn
I’r perwyl hwn rydym yn datblygu adnoddau addysgol arloesol ar y cyd â phartneriaid allanol, er budd y gymuned gyfreithiol a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth hefyd â chwmnïau cyfreithiol a sefydliadau allanol i greu cyfleoedd i weithwyr proffesiynol a myfyrwyr i ymgyfarwyddo â Thechnoleg Gyfreithiol trwy gyfrwng interniaethau, gweminarau a chyfleoedd eraill i ymgysylltu.
Trwy goleddu ymrwymiad creadigol i’r gyfraith, dymunwn gydrannu’r profiad o ddatblygu ac ymchwilio i ddatrysiadau a datblygiadau mewn Technoleg Gyfreithiol, gan rymuso pawb i ddeall, defnyddio a datblygu Technoleg Gyfreithiol yn eu hymarfer.
Cynorthwyir y Lab hefyd gan y gymuned Technoleg Gyfreithiol fywiog yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, a lansiodd y cwrs cyntaf yng ngwledydd Prydain i ôl-raddedigion mewn Technoleg Gyfreithiol yn 2018. Hyrwyddir y radd LLM mewn Technoleg Gyfreithiol gan bartneriaeth unigryw rhwng y Gyfraith a Chyfrifiadureg; mae’n cynnig i gyfreithwyr y cenedlaethau newydd y sgiliau hanfodol i harneisio grym technoleg yn y proffesiwn cyfreithiol.