Ynghylch y Lab
Menter werth £4.9 miliwn yw Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, rhan o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe. Cafodd ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Mae’r Labordy’n adeiladu ar sail sefyllfa Prifysgol Abertawe fel sefydliad a adnabyddir fel arweinydd rhyngwladol ym maes newydd Technoleg Gyfreithiol, a mewn ymchwil i wrthderfysgaeth, amddiffyn a diogeledd. Mae’r ganolfan fywiog, drawsnewidiadol hon wedi’i chyfarparu â chyfleusterau modern gan gynnwys mannau cydlafurio sy’n agored i ymarferwyr y gyfraith a gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill; labordy Deallusrwydd Artiffisial yn y Gyfraith; canolfan ymchwilio i Seiberfygythiadau, a chanolfan Ymchwil a Datblygiad Technoleg Gyfreithiol, sy’n dod â gwybodaeth academaidd a chapásiti ymchwilio at ymarfer cyfreithiol
Ein gweledigaeth, wrth weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y sector cyfreithiol, yw hyrwyddo twf a chynaladwyedd ecónomi Technoleg Gyfreithiol lewyrchus, gwella mynediad at gyfiawnder, gweddnewid y modd y darperir gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru a’r tu draw, a helpu i dyfu cymuned Technoleg Gyfreithiol sy’n agored, cynhwysol a chydweithredol.