Dysgu peirianyddol a'r hyn mae'n gallu ei wneud i chi

Mae dysgu peirianyddol yn ystyried gallu systemau i ddysgu ac addasu at ddata. Weithiau, symiau anferth o ddata. Y fath symiau y byddai angen peiriant amser (a chalendr gwag iawn) ar fodau dynol fel ti a fi i'w prosesu.

Mae hyn yn ffodus oherwydd dim ond yn achlysurol fydd peiriannau amser gan gyfreithwyr ac nid ydynt byth wedi clywed am galendr gwag.

Wrth i'r sector cyfreithiol ddechrau darganfod nad oes angen iddo dreulio oriau gwaith staff yn gwneud gwaith diflas (a bod y cwmnïau a'r unigolion y maent yn eu gwasanaethu'n llai bodlon ar wario arian ar oriau gwaith staff ar gyfer gwaith diflas), cafwyd gwaith ymchwil sydd wedi ystyried y tasgau posibl y gellid eu dadlwytho o'r arbenigwyr cyfreithiol sydd wedi'u gorlwytho. Yn gyffrous, mae llawer iawn o waith wedi bod i arbrofi a chreu'r systemau hyn a'u rhoi ar waith.

Er nad ydynt yn holl gynhwysfawr, bydd y categorïau o dasgau rydym wedi'u rhestru isod siŵr o fod yn rhan o sgwrs am ddysgu peirianyddol yn y sector cyfreithiol.

Ymchwil gyfreithiol

Nid yw paratoi ar gyfer achos mor syml â chasglu eich siwt o'r glanhäwr ac ymarfer eich ymadroddion clyfar yn nrych yr ystafell ymolchi. Bydd gwaith darllen. Llawer iawn o waith darllen. A dyna pam mae llawer o frwdfrydedd wedi bod ynghylch gadael i beiriannau wneud y gwaith crynhoi drosom (nodwyd eisoes: maent yn alluog iawn wrth brosesu symiau mawr o ddata). Gadael iddynt bwyso a mesur yr achos presennol a chwilio drwy ystorfeydd data er mwyn dod o hyd i ddyfarniadau perthnasol. Nid yw'r ateb hwn yn fwled arian (nid eto). Mae data gan lysoedd y Deyrnas Unedig yn hynod ddi-strwythur, sy'n ei gwneud hi'n hynod heriol i algorithmau Dysgu Peirianyddol eu parsio.

 

Adolygu, ail-bapuro a diwydrwydd dyladwy

Nid yw diwydrwydd yn air cyffrous. Os byddwch yn meddwl amdano am rhy hir, byddwch yn dechrau blino.  Rydych yn dechrau meddwl am weithiwr paragyfreithiol sydd wedi blino'n lân. Efallai ei fod yn 24 oed, newydd raddio, yn crymu dros ddesg o Ikea sydd mor fach nad oes lle ar y bwrdd ar gyfer y papurau y mae'n eu darllen. Maent yn syrthio ar y llawr. Mae'r plygiad yng nghornel dogfen bwysig cleient yn atal honno rhag sugno coffi sydd wedi bod yn lledu dros y ddesg. Nid yw'r cyfreithiwr 24 oed wedi sylwi arno, oherwydd nad oes modd iddo droi ei sylw o'r hyn mae'n ei ddarllen. Os bydd yn troi ei sylw, bydd yn methu ei droi'n ôl. Ond hyd yn oed wrth iddo syllu, mae ei feddwl yn rhywle arall. Mae'n meddwl "efallai nad yw hi'n rhy hwyr i ail-hyfforddi".

Mae peiriannau'n llai tebygol o gael argyfyngau dirfodol, ac os ydynt yn gwybod yr hyn maent yn chwilio amdano, nid ydynt yn debygol o'i golli. Yn anffodus, nid ydym wedi llwyddo'n gyfan gwbl i ryddhau'r gweithiwr paragyfreithiol (na'r cyfreithiwr) o waith adolygu dogfennau. Mae'n eithaf anodd i ni gyfleu yn union beth dylai'r peiriannau fod yn chwilio amdano. Yn debyg i ymchwil gyfreithiol, mae'r dasg hon yn dioddef oherwydd diffyg strwythur (yn yr achos hwn, diffyg strwythur cyffredin) a thueddiad gweithwyr proffesiynol y gyfraith at addurno iaith contractau.  Hefyd, mae'n gallu bod yn anodd cael gafael ar ddigon o gontractau tebyg er mwyn hyfforddi'r mathau hyn o algorithmau yn gywir. Nid yw hynny'n golygu nad yw Dysgu Peirianyddol wedi'i roi ar waith yn llwyddiannus mewn tasgau adolygu. Pan gyhoeddwyd y byddai LIBOR (y Lonon-Bank Offered Rate) yn cael ei ddileu, defnyddiodd cwmnïau cyfreithiol eu gallu o ran dysgu peirianyddol er mwyn cyflawni'r gwaith o adolygu miloedd o gontractau efallai yr oedd effaith arnynt, a nodi'r sawl yr oedd angen ei ail-bapuro.

 

Rheoli portffolios a chontractau

Mae rheoli portffolios yn ymarfer 'cysylltu'r dotiau' arall sy'n cynnwys dal llawer o wybodaeth yn eich pen ar yr un pryd. Pan fo newid i un contract mewn portffolio, mae'n rhaid bod yn ofalus i sicrhau na fydd yr effeithiau'n ymyrryd â chontractau eraill (neu'n achosi trafferth cyfreithiol i chi) yn rhywle arall. Rydym yn gwybod bod rheoli contractau'n gallu bod braidd yn ad hoc i rai cwmnïau. Rhaid mynd i'r afael â'r ffaith honno pan fydd y tîm archwilio yn cnocio ar eich drws. Gallai hyfforddi model Dysgu Peirianyddol i ddeall eich portffolio a chynorthwyo mewn trafodaethau helpu i gael gwared ar wallau (a chreu llwybr archwilio defnyddiol efallai).

 

Rhagfynegi canlyniadau

Mae rhagfynegi canlyniadau'n arfer mor hen ag amser ei hun. Ers y tro cyntaf erioed i homo habilis orfod syllu ar lew a gofyn "os bydda i'n cymryd y carcas hwnnw, a fydd y llew yn fy nghymryd i?". Nid yw rhagfynegi canlyniadau cyfreithiol wedi newid cymaint. Rydym yn dal i ofyn i'n hunain a allwn ennill y frwydr honno mewn gwirionedd. A than yn ddiweddar, rydym wedi bod yn defnyddio'r ymennydd dynol i ateb y cwestiynau hynny. Rydym yn dda iawn wrth nodi patrymau, yn sicr, ond mae peiriannau'n ei wneud yn well. Er bod algorithmau Dysgu Peirianyddol yn haeddu mwy o glod nag ystadegwyr syml, maent wir yn gallu prosesu'r ystadegau'n dda. Mae llawer sy'n rhan o achos: ffactorau sy'n cael eu colli'n hawdd. Gall algorithmau Dysgu Peirianyddol ddethol y ffactorau hynny'n go dda (hyd yn oed y rhai sy'n ymddangos yn wrth-reddfol). Yr unig broblem (y byddwn yn trafod ei datrys nes ymlaen pan fyddwn yn trafod Deallusrwydd Artuiffisial y gellir ei esbonio) yw nad yw gwybod canlyniad rhagweladwy yr achos yr un peth â gwybod pam ei fod yn ganlyniad rhagweladwy achos. A dim ond un o'r rheiny sydd wir yn eich helpu gyda strategaeth.

 

Barnwyr a'u hymddygiad

Mae hyn yn debyg iawn i ragfynegi canlyniadau, ond yma ceir goblygiad mwy penodol ar gyfer atebolrwydd. Wrth nodi patrymau mewn ymddygiadau barnwr, nid yn unig ffeithiau achos, mae'n bosibl symud tuag at ddatgelu tueddiadau ac ymarferion anfoesol.

 

Casgliad

Wrth gwrs, nid yw hyn yn cwmpasu popeth. Yn nhirwedd eang ac amrywiol y gyfraith, ceir llawer o ffyrdd o gymhwyso Dysgu Peirianyddol. Cyfleoedd i wella'r ffordd rydym wedi gwneud pethau yn y gorffennol a newid yn sylfaenol y ffordd y byddwn yn gwneud pethau yn y dyfodol.

Previous
Previous

Digwyddiad SRA Caerdydd 21 Hydref 2021:Arloesedd: Troi Syniadau Busnes yn Realiti

Next
Next

Prosesu Iaith Naturiol - Beth ydyw a pham y dylech ymddiddori