Prif-ffrydio'r Iaith Gymraeg

welsh-flag.jpg

Wrth greu ein holl ddeunyddiau marchnata, rydym yn sicrhau bod popeth yn ddwyieithog. Mae gan ein gwefan fersiynau Cymraeg a Saesneg llawn, gyda thogl rhwydd ar frig y dudalen https://legaltech.wales/cy/hafan/

Mae gennym is-deitlau Cymraeg ar fideo hyrwyddo ein prosiect ttps://youtu.be/iPvb5eQuSfY

Pan fyddwn yn anfon e-byst hyrwyddo, byddwn bob amser yn sicrhau eu bod yn cael eu cyfieithu fel bod opsiwn Cymraeg.

Rydym yn cyflogi cyfieithwyr Cymraeg proffesiynol i sicrhau bod y cyfieithiadau o'r safon uchaf.

Ers mis Gorffennaf 2020, mae Freya Michaud wedi bod yn dilyn cwrs Cyflwyniad i'r Iaith Gymraeg am ddwy awr bob wythnos.  Cynhelir y cwrs dros Zoom. Mae'n dilyn llyfr cwrs penodedig ac fe'i cynhelir mewn lleoliad ystafell ddosbarth gyda dysgwyr eraill ac athro. 

Hefyd mae hi'n astudio'n annibynnol gydag ymarferion Cymraeg Gwaith penodol drwy borth dysgu ar-lein.

Cyflwynir y cwrs gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’i nod yw dysgu Cymraeg. Mae’r Ganolfan yn gyfrifol am yr holl agweddau ar y sector Dysgu Cymraeg - o ddatblygu'r cwricwlwm a chyrsiau i adnoddau i diwtoriaid, ymchwil, marchnata ac e-ddysgu.

Sefydlwyd y Ganolfan mewn ymateb i'r adroddiad, Codi Golygon: Adolygiad o Gymraeg i Oedolion. Mae'r Ganolfan yn gweithredu o hyd braich Llywodraeth Cymru, sy'n ei hariannu, ac mae'n rhan o grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae hyn wedi cyfrannu at brif-ffrydio'r iaith Gymraeg a bellach gall Freya ddefnyddio Cymraeg sy'n addas ar gyfer y gweithle gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid ac mae’n fwy ymwybodol o'r iaith Gymraeg. Mae Freya wedi sicrhau bod pob galwad ffôn yn cael ei hateb yn ddwyieithog, yn ogystal â sicrhau bod llofnodion e-bost a negeseuon allan o'r swyddfa’n ddwyieithog.

Mae'r camau hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol at y Thema Drawsbynciol o Brif-ffrydio'r Iaith Gymraeg. 

Previous
Previous

Echdynnu gwybodaeth allweddol o achosion - prosiect peilot tagio cyfraith achosion

Next
Next

Offeryn Grantiau Gwyrdd