Echdynnu gwybodaeth allweddol o achosion - prosiect peilot tagio cyfraith achosion
Fel rhan o Wythnos Digwyddiadau'r Haf Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, ar 21 Mehefin 2021, gwnaethom gynnal y panel: Sut y gellir defnyddio apiau i gefnogi ymataliad rhag troseddu a gwella lles?
Mae un o'r meysydd mwyaf cyffrous o ran technoleg gyfreithiol yn ymwneud ag echdynnu'n awtomataidd wybodaeth o ddogfennau cyfreithiol, gan gynnwys cyfraith achosion, deddfwriaeth a chontractau. Mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru ar flaen y gad o ran y datblygiadau hyn ac mae'n cynnal ymchwil ar gymhwyso deallusrwydd artiffisial esboniadwy, ontolegau gwe a graffiau gwybodaeth i wybodaeth gyfreithiol.
Mae ein hymchwilydd Livio Robaldo mewn partneriaeth â Patrizio Gelosi (ReadContract), wedi creu ap tagio cyfraith achosion, gan ddefnyddio LegalDocML (fformat XML safonol ar gyfer dogfennau cyfreithiol) i nodi'n awtomataidd wybodaeth allweddol (dyddiadau, partïon, barnwyr ac endidau eraill a enwyd) mewn corpws o 100 o benderfyniadau cyfreithiol a gyhoeddwyd ar judiciary.gov.uk. Mae gan y technolegau a ddefnyddiwyd yn y prosiect hwn y gallu i chwyldroi ymagwedd cwmnïau cyfreithiol at wybodaeth gyfreithiol, gan alluogi arloesedd Technoleg Gyfreithiol newydd sy'n datgloi mewnwelediadau allweddol o ddata.
Cawsom drafodaeth (ac arddangosiad byw o'r prosiect) gyda Livio, Patrizio a Nick Rundle (Partner a Chyd-bennaeth Tîm Rheoli Prosiect Technoleg Ymgyfreitha a Chyfreithiol Propel yn Eversheds Sutherland) am y prosiect cyffrous hwn a'i arwyddocâd ar gyfer datblygiad Technoleg Gyfreithiol yng Nghymru a'r tu hwnt. Stefano Barazza, Arweinydd Academaidd Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru wnaeth gymedroli trafodaeth y Panel.
Gallwch wylio fideo o drafodaeth y panel ar ein sianel YouTube yma: https://youtu.be/IatXeKbBzkA