Offeryn Grantiau Gwyrdd

Rydym wedi gwirfoddoli ein prosiect i ddefnyddio’r Offeryn Grantiau Gwyrdd drafft a ddatblygwyd gan Dîm Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe. Mae hyn yn perthyn yn uniongyrchol i'r Themâu Trawsbynciol Datblygu Cynaliadwy, gan y bydd yr offeryn yn helpu'r prosiect i fodloni ei Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy ddarparu fframwaith a gwybodaeth ddefnyddiol i dywys cydweithwyr trwy wneud prosesau mor gynaliadwy â phosib. 

Datblygwyd yr Offeryn Grantiau Gwyrdd i gefnogi cydweithwyr i ymgorffori cynaliadwyedd, effeithiau hinsoddol ac ymrwymiadau cysylltiedig y Brifysgol yn eich cynigion ymchwil a chyflwyno prosiect ymchwil mwy cynaliadwy.

Dyluniwyd y camau Grantiau Gwyrdd i ddilyn ac ategu'r broses o gyflwyno cais a dyfarnu’r grant. Bydd darparu'r tri gweithgaredd syml hyn yn rhoi hwb mesuradwy i gynaliadwyedd eich prosiect, yn lleihau effeithiau amgylcheddol ac yn mwyafu effeithlonrwydd.

Previous
Previous

Prif-ffrydio'r Iaith Gymraeg

Next
Next

Apêl y Nadolig Mr X