Apêl y Nadolig Mr X
Sefydlwyd Apêl y Nadolig Mr X dros 50 mlynedd yn ôl gan Tom Brevin i gasglu rhoddion ar ffurf anrhegion Nadolig a'u rhoi i blant difreintiedig. Mae'r apêl yn rhoi anrhegion i blant o Gastell-nedd, Abertawe a Sir Gâr. Caiff yr anrhegion eu casglu a'u dosbarthu gan wirfoddolwyr dienw.
Eleni, gofynnodd ein Rheolwr Prosiect, Ben Riseborough, i gydweithwyr a hoffent gymryd rhan. Gwnaeth 6 o gydweithwyr gyfrannu a threfnodd Ben gasglu'r rhoddion o gartrefi pobl a mynd â nhw i'r canolfannau rhoddion swyddogol.
Bydd hyn yn cyfrannu at y Thema Drawsbynciol o Fynd i'r Afael â Thlodi ac Allgáu Cymdeithasol, oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i blant yn y gymuned dderbyn anrhegion Nadolig pan na fyddent wedi'u derbyn fel arall. Mae'n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y gymuned hefyd ac yn lleddfu straen eu rhieni a'u gofalwyr o ran gorfod dod o hyd i arian i brynu anrhegion ar eu cyfer pan fo arian yn brin.