Digwyddiad SRA Caerdydd 21 Hydref 2021:Arloesedd: Troi Syniadau Busnes yn Realiti

Bach o frecwast a llymaid o hunllef waethaf cwsg, yr espresso, ac roedd hi'n amser mynd ar y trên i ddigwyddiad diddorol arall am Dechnoleg Gyfreithiol. Mae'n deimlad da gallu mynd i gynifer o ddigwyddiadau  erbyn hyn. Heddiw, roedd tîm Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru'n bresennol mewn trafodaeth banel yn amgueddfa wyddoniaeth Techniquest yng Nghaerdydd, a gafodd ei threfnu gan Awdurdod Rheoleiddio’r Cyfreithwyr i drafod arloesi yn y sector cyfreithiol. Ar ôl treulio ychydig amser i werthfawrogi'r arddangosion rhyfeddol yn yr amgueddfa, megis braich robot a chraen gwactod, roedd hi'n bryd dechrau’r drafodaeth. Byddai’n hawdd meddwl mai dim ond y cwmnïau cyfreithiol mawr fyddai’n ymddiddori mewn arloesi, ond roedd y digwyddiad hwn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer cwmnïau bach a chanolig a sut gallant addasu a mabwysiadu arloesedd yn eu bywydau pob dydd.

Beth yw ystyr arloesedd yn y sector cyfreithiol i chi?

Cwestiwn cyntaf, diniwed ar yr arwyneb, sy'n anodd iawn ei ateb. Y panel: Steph Locke, Prif Swyddog Gweithredol Nightingale HQ, Chris Nott OBE, Sefydlydd Capital Law, a Chyfarwyddwr Capital People, Clive Thomas, Rheolwr-gyfarwyddwr Watkins & Gunn Solicitors a Dr Adam Wyner, Athro Cysylltiol yn y Gyfraith a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.

Yr hyn a ddaeth yn amlwg drwy'r drafodaeth oedd bod llawer o heriau wrth feddwl am arloesi yn y sector cyfreithiol, megis cost uchel bosib gweithredu ynghyd â'r angen i basio prawf amser;   yn ogystal â'r angen i aros ar flaen y gad neu hyd yn oed meddwl am “yr un” cymhwysiad technoleg a fydd yn trawsnewid popeth, neu hyd yn oed yr ofn o gael eich disodli gan Ddeallusrwydd Artiffisial ac offer technegol. Fodd bynnag, gall arloesedd fod yn llawer haws na hynny. Nid oes angen i gwmnïau cyfreithiol bach a chanolig drawsnewid y sector eu hunain, na buddsoddi symiau enfawr o arian mewn ymchwil arloesol a'i rhoi ar waith.  A does bosib y byddan nhw’n colli eu swyddi'n fuan chwaith. Mae'r hyn y mae angen iddynt ei wneud, yn ôl y panelwyr, mor syml â dweud wrth un neu ddau berson am gadw golwg, gan fuddsoddi o fewn eu terfynau i ganfod yr offer priodol i wella eu profiad nhw a phrofiad eu cleientiaid, ac i gyfathrebu a chydweithio ag arbenigwyr technoleg ag â’i gilydd.  Mae'r newidiadau'n fach, ac mae'r gwerth a geir yn amhrisiadwy. Mae'r cwmni'n dechrau symud ymlaen, mae cleientiaid yn hapusach nag erioed, ac mae gweithwyr proffesiynol y gyfraith yn arbed amser ac yn ymgyfarwyddo â thechnoleg.

Gall syniadau gwych ddod o unrhyw le. Gellir canfod arloesedd mewn meysydd cyfagos ond hefyd mewn rhai amherthnasol hefyd. Mae cadw llygaid ar agor yn hollbwysig. Serch hynny, bydd y camau cyntaf bob amser yn anodd, heb os. Nid yw gweithwyr proffesiynol y gyfraith, oherwydd natur eu gwaith, yn hoffi risg. Gwaith cyfreithiwr yw lleihau a lliniaru risg, i sicrhau ac amddiffyn hawliau. Nid yw'r tasgau hyn yn cyd-fynd ag archwilio offer newydd, rhoi cynnig ar atebion heb eu profi, a chynnig newidiadau radical. Mae'r holl weithgareddau hyn yn cynnwys llawer mwy o risg na'r hyn maent wedi'u hyfforddi i'w derbyn. Serch hynny, mae arloesedd yn amhosib heb fod yn barod i dderbyn ychydig o risg. Bydd yn rhaid i weithwyr proffesiynol y gyfraith addasu ychydig ar eu hawydd am risg er mwyn caniatáu ychydig o le am newid. Nid yw hynny’n dweud y byddant yn peryglu hawliau eu cleientiaid , byddai hynny'n ddwl. Yn lle hynny, disgwylir iddynt arbrofi ar yr ochr, rhoi technoleg sydd eisoes ar y farchnad ar waith, neu hyd yn oed adael i'r dynion mawr fel Microsoft ddelio â'r risg o ddatblygu meddalwedd a thanysgrifio i'w gwasanaethau. 

Wrth gwrs, ni all y newidiadau hyn effeithio ar ymarfer cyfreithiol yn unig. Rhaid iddynt gael eu hadlewyrchu yn ochr addysgol a rheoleiddiol y proffesiwn hefyd. Er y daw'r ysgogiad am arloesedd oddi wrth ymarferwyr, mae'n hollbwysig iddynt wybod bod ganddynt gefnogaeth y rheoleiddwyr. Bydd hyn yn rhoi'r dewrder iddynt fynd ar drywydd syniadau ac atebion newydd ac yn rhoi’r cryfder iddynt ail-werthuso eu hawydd am risg. O ran y rôl sefydliadol, fel prifysgolion mae gennym gyfrifoldeb tuag at ein myfyrwyr a'r wyddoniaeth rydym yn ei gwasanaethu i ddarparu'r offer angenrheidiol i alluogi ymarferwyr y dyfodol i ffynnu. Yn y oes newydd hon ar gyfer y gyfraith, mae’r angen i weithwyr proffesiynol y gyfraith ddeall egwyddorion cyfrifiadureg yn cynyddu'n sylweddol. Nid yw hynny'n golygu y bydd yn rhaid i gyfreithwyr ddeall sut i godio, ond ni allant anwybyddu'r ffordd y mae meddalwedd cyfrifiadur yn gweithio os ydynt am feithrin cyfathrebu iach a chynhyrchiol gyda'r arbenigwyr maent yn gweithio gyda nhw wrth drawsnewid y sector cyfreithiol.

Mae sgyrsiau gwych fel yr un yn Techniquest bellach yn digwydd yn amlach ac maent yn chwarae rôl bwysig iawn wrth hysbysu cwmnïau cyfreithiol ledled y wlad am eu rôl tuag at arloesi, rhannu profiadau ac ateb cwestiynau. Roedd hi'n gyffrous iawn gweld bod nifer o gwmnïau ledled Cymru eisoes yn rhan o'r drafodaeth ac yn bwriadu cymryd camau tuag at newid gan obeithio bydd y nifer yn cynyddu yn y dyfodol.

Welai chi yn yr un nesaf!

Previous
Previous

Cynhadledd Rhydychen: Mae Deallusrwydd Artiffisial yn achub y blaen!!

Next
Next

Dysgu peirianyddol a'r hyn mae'n gallu ei wneud i chi