Dyfodol y Gyfraith, Gyda'n Gilydd

LILW Signage.jpg

Ddydd Gwener 22 Ionawr 2021, cynhaliodd Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru ein digwyddiad Dyfodol y Gyfraith, Gyda'n Gilydd cyntaf. Cawsom drafodaeth wych ar ddyfodol TechGyfreithiol yng Nghymru, gyda'r siaradwr gwadd, y Cwnseler Cyffredinol Jeremy Miles, sy'n Aelod o'r Senedd.

Gyda'n gilydd, mae gennym y pŵer i chwyldroi'r diwydiant. Mae technolegau arloesol, megis deallusrwydd artiffisial a Blockchain, yn barod i drawsnewid mynediad at gyfiawnder, gwneud penderfyniadau cyfreithiol a chael cyngor cyfreithiol.

Mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru'n bodoli i gyflymu datblygiadau yn y diwydiant ac atgyfnerthu twf ym maes TechGyfreithiol yng Nghymru a'r tu hwnt. Mae sawl thema i’n gwaith, gan ymdrin ag ystod eang o feysydd pwnc megis rheoleiddio technolegau newydd, cysyniadau cyfreithiol newydd, cyfiawnder algorithmig ac asesu ac ymateb i fygythiadau yn y seiberofod.  

Gallwch wylio recordiad o'r digwyddiad llawn ar ein sianel YouTube yma: https://youtu.be/YZER1L0WiK

Previous
Previous

Technoleg a Mynediad at Gyfiawnder