Technoleg a Mynediad at Gyfiawnder
Fel rhan o Wythnos Digwyddiadau'r Haf Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, ar 23 Mehefin 2021, gwnaethom gynnal y panel: Technoleg a Mynediad at Gyfiawnder
Bydd technoleg yn newid ein bywydau'n gyffredinol dros y degawd nesaf. Rydym eisoes yn gallu gweld pa mor bwysig mae wedi bod wrth gadw gwasanaethau cyfreithiol i weithredu yn ystod y pandemig. Mae busnesau a darparwyr nid er elw wedi ymateb yn ddewr i'r sefyllfa lle maent wedi gorfod gweithio o bell o ganlyniad i Covid 19. Mae llysoedd a thribiwnlysoedd, a oedd eisoes ynghanol y broses pontio digidol, wedi symud yn gyflym i weithredu ar-lein. Bellach gan fod gennym rywfaint o obaith y gallwn adael y gwaethaf o'r pandemig yn y gorffennol, dyma'n cyfle i:
• asesu beth sydd wedi digwydd o gwmpas y byd hyd yn hyn o ran gwasanaethau digidol;
• dadansoddi'r prif rymoedd ar waith wrth gyflymu neu oedi rhagor o ddigideiddio;
• rhoi datblygiadau byd-eang mewn cyd-destun penodol o ran yr hyn a allai fod yn berthnasol i Gymru;
• cysylltu datblygiadau mewn technoleg â'u cyd-destun gwleidyddol a phroffesiynol;
• llunio cyfres o argymhellion a fydd yn mwyafu effaith fuddiol technoleg.
Siaradwyr:
Cadeirydd - Yr Athro Richard Owen - Prifysgol Abertawe
Roger Smith OBE
Natalie Byrom – Y Sefydliad Addysg Gyfreithiol
Karen Taylor – Canolfan Cyngor Ar Bopeth Rhondda Cynon Taf
Dr Sarah Nason – Prifysgol Bangor
Siaradodd Roger am hanner awr, gan adael amser cyfwerth ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth. Crwydrodd ei gyflwyniad y byd, gan ystyried gwaith allgymorth ar Zoom Ysgol Cyfraith y Bobl yn British Columbia, i'r pecyn atgyfeirio pro bono a ddatblygwyd gan JusticeConnect yn Awstralia (ac a dderbyniwyd gan LawWorks yn Lloegr); o HelloDivorce, sef gwasanaeth ysgaru arloesol yn UDA sy'n cyfuno elfennau awtomataidd, digidol ac unigol, i gydnabyddiaeth o'r uwchraddiad mawr a welwyd ym mhresenoldeb digidol Canolfannau Cyngor ar Bopeth. Trafodwyd perfformiad Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi, y mae ei optimistiaeth gadarnhaol barhaus o ran ei raglen foderneiddio'n gwrthgyferbynnu mor amlwg â phesimistiaeth y rhan fwyaf o ymarferwyr. Ac wrth i Gymru ystyried sut i ddatblygu ymagwedd unigryw o ran gwasanaethau cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus, sut gallai ddymuno gwahaniaethu ei hun o safbwynt technoleg o gynlluniau cymorth cyfreithiol ei chymdogion - Lloegr, lle bu cymorth cyfreithiol yn encilio ers 2012 - a'r Alban, lle mae gweinyddiaeth cymorth cyfreithiol ar wahân gyda brîff eang ac ymagwedd gymharol gynhwysfawr wedi goroesi? Pa ddewisiadau a pha wersi sydd o'n blaenau?
Gallwch wylio fideo o drafodaeth y panel ar ein sianel YouTube yma: https://youtu.be/0w3lWSENyr4