Cynhadledd Rhydychen: Mae Deallusrwydd Artiffisial yn achub y blaen!!

Nid yw'n rheoli'r byd, eto, ond yn sicr mae ef ym mhobman yn y newyddion ac mewn trafodaethau mewn bywyd pob dydd, ar y Rhyngrwyd ac yn y byd academaidd. Mae natur darfol technoleg a nifer ei chymwysiadau posibl yn rhywbeth na ddylid ei anwybyddu. Rydym yn debygol o weld newidiadau sylweddol mewn meysydd sy'n dibynnu ar wybodaeth ddynol ac mae llawer o bobl yn rhagweld trawsnewid ar raddfa economaidd fyd-eang. Ymhlith y diwydiannau yr effeithir arnynt, mae’r system gyfreithiol o ddiddordeb penodol oherwydd bod ganddi rôl ddeuol yn y gymdeithas, wrth fod yn drefn economaidd lywodraethol ac yn asgwrn cefn i drefn gymdeithasol hefyd. Gan ystyried canlyniadau'r posibilrwydd o gamdrafod y gwaith o weithredu Deallusrwydd Artiffisial, dylid cymryd gofal ychwanegol wrth ystyried sut i symud ymlaen yn y dyfodol.

Yn fras, dyna oedd rhagarweiniad y seminar rydym wedi bod yn ei mynychu am y pedair wythnos diwethaf. Wrth gwrs, gyda rhagarweiniad fel hwn, mae modd paratoi eich hunan ar unwaith ar gyfer ymdrochi mewn materion cymhleth a thechnegol. A gadewch i mi eich sicrhau, gwnaeth y seminar gyrraedd y disgwyliadau yn llwyr. O 2019 i 2021, gwnaeth Prifysgol Rhydychen, gan weithio ar y cyd ar draws adrannau a chyfadrannau'r Gyfraith, Economeg, Cyfrifiadureg, Addysg ac Ysgol Fusnes Saïd, ymgymryd â'r dasg feichus o ymchwilio, o safbwynt amlochrog a holistaidd, i'r cwestiynau, yr heriau a'r problemau y mae twf technoleg deallusrwydd artiffisial yn eu gosod ar y sector cyfreithiol. Wedi'i ariannu gan y Cronfeydd Herio Strategaeth Ddiwydiannol (ISCF), Rhaglen Ymchwil Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf ac Ymchwil ac Arloesi'r Deyrnas Unedig (UKRI), mae'r prosiect hefyd yn canolbwyntio ar y newidiadau, y trawsnewidiadau a'r addasiadau y mae angen eu hystyried a'u rhoi ar waith er mwyn pontio'n hwylus ac yn llwyddiannus. Gwnaethant archwilio'r materion hyn mewn cyfres o bedair seminar wythnosol yn ystod mis Medi 2021, wedi'u rhannu'n chwe phecyn gwaith a oedd yn cynnwys deall y modelau busnes newydd eu creu a'u cyflwyniad yn y diwydiant, a chymwysiadau penodol deallusrwydd artiffisial a'r trafodaethau megis dyfodol addysg gyfreithiol.

Yn ystod y gweminarau, cyflwynwyd sawl canfyddiad ymchwil diddorol, a chynhaliwyd llawer o drafodaethau hynod ddiddorol ymysg y panelwyr ar amrywiaeth o bynciau. Nid ydym yn mynd i gyfeirio atynt i gyd yn y postiad blog hwn, oherwydd bod y seminarau i gyd ar gael ar eu gwefan ac rydym yn eich cynghori'n gryf i edrych arnynt os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi trosolwg cyffredinol o rai o'r prif bwyntiau a'r canfyddiadau sy’n procio’r meddwl.

Gadewch inni ddechrau gyda newyddion a allai leddfu'r hyn y mae llawer ohonom fel cyfreithwyr yn ei ofni ar yr adeg hon, sef ofni cael ein cyfnewid am ddeallusrwydd artiffisial. Fel yr esboniodd yr Athro John Armour, Athro'r Gyfraith a Chyllid ym Mhrifysgol Rhydychen, bydd tair effaith ar gyfreithwyr yn sgîl technolegau deallusrwydd artiffisial, gyda rhai cymwysiadau'n ceisio dileu'r proffesiwn cyfreithiol o'r hafaliad. Peidiwch â phoeni, mae'n gwella! Oherwydd yn bennaf, byddai'r rheini'n berthnasol i'r tasgau diraddiol ac arferol y gellir eu hawtomeiddio ac y dylid eu hawtomeiddio. Bydd eraill yn cynyddu rôl y gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, oherwydd y byddant yn cydweddu â'u gwaith ac yn rhoi cyfarpar iddynt i weithio'n well ac yn gyflymach. Yn olaf, bydd rhai cymwysiadau yn arwain at greu rolau newydd ar gyfer arbenigwyr cyfreithiol, megis y peiriannydd cyfreithiol a'r dylunydd cyfreithiol rydym eisoes wedi'u gweld heddiw. Bydd y newid hwn wrth gwrs yn effeithio ymhellach ar fodel busnes cwmnïau cyfreithiol yn rhyngwladol, efallai drwy dorri gwasanaethau cyfreithiol yn rhannau ymgynghorol, gweithrediadau cyfreithiol a Thechnoleg Gyfreithiol. Mae'r newid yn y model busnes wedi'i gefnogi gan ddata ymchwil gan Ysgol Fusnes Saïd, gan yr Athro Mari Sako, o Astudiaethau Rheoli ym Mhrifysgol Rhydychen, a Matthias Qian, cymrawd ymchwil mewn Cyllid a Deallusrwydd Artiffisial, a ddarganfu, ar ôl cymharu data o Lundain, Efrog Newydd a San Ffrancisco ynghylch y diwydiannau Technoleg Gyfreithiol a Thechnoleg Ariannol, fod amrywiaeth mewn gwybodaeth yn chwarae rôl bwysig yng nghyfraddau twf busnesau dechreuol ym maes Technoleg Gyfreithiol, ac mae busnesau dechreuol sy'n cyflogi gweithwyr proffesiynol â chefndiroedd amrywiol o ran eu gwybodaeth yn tyfu hyd at dair gwaith yn fwy na'r rhai sy'n gweithredu ar sail cyfreithwyr yn unig.

Ar agwedd fwy technegol byth, gwnaeth yr Athro John Armour ar y cyd â'r Athro Thomas Lukasiewicz o'r Adran Gyfrifiadureg a'r myfyriwr PhD, Alini Petrova, archwilio potensial Deallusrwydd Artiffisial wrth ragfynegi canlyniadau achosion cyfreithiol mewn astudiaeth achos a oedd yn cynnwys achosion Llys Hawliau Dynol Ewrop, ac roeddent yn gallu cyrraedd cywirdeb oddeutu 70-80% yn eu rhagfynegiadau. Er ei fod yn llwyddiant mawr, mae llawer o gwestiynau a materion i'w trafod o hyd ar destun rhagfynegi canlyniadau. Mae'r rhain yn cynnwys natur esboniadwy’r rhagfynegiadau a'r dulliau rhesymeg Deallusrwydd Artiffisial, yn ogystal â materion gweithredu mewn awdurdodaethau cyfraith gyffredin lle mae'r gyfraith yn seiliedig ar gynseiliau, nad ydynt wedi'u trefnu mewn ffordd sy'n ystyriol o Ddysgu Peirianyddol. At hynny, her enfawr arall ar gyfer gweithredu algorithmau o'r fath yw'r diffyg data sydd ar gael, oherwydd bod mynediad atynt yn gyfyngedig a hefyd mae'r data ei hun yn wasgaredig (nid yw pob achos yn mynd i'r llys) a heb eu hanodi. Os yw rhai ohonoch bellach yn gofyn cwestiynau megis "sut rydym yn gwerthuso gwasanaethau cyfreithiol er mwyn hyfforddi'r deallusrwydd artiffisial i wneud hynny?" ac "a ddylem fod yn cymhwyso algorithmau dysgu dwfn sydd wedi'u defnyddio mewn diwydiannau eraill ym maes y gyfraith, neu a ddylem feddwl am ffyrdd pwrpasol o fynd i'r afael â materion cyfreithiol penodol?", dylech wylio'r seminarau ar-lein yn bendant, oherwydd dyna'r union un cwestiynau roedd y panelwyr yn eu trafod.

Yn olaf, roedd swm sylweddol o ymchwil yn canolbwyntio'n gywir ar y diwygiadau rheoleiddiol ac addysgol y mae eu hangen, deallusrwydd artiffisial yn rhyngweithio â rheoliadau sydd eisoes ar waith megis cyfreithiau Diogelu Data, a sut gallai gwneud penderfyniadau'n awtomataidd fod yn rhan o brosesau gweinyddol. Mewn cyfres o gyflwyniadau, caiff y materion hyn eu harchwilio'n fanwl, ar y cyd â llawer o faterion eraill; fodd bynnag, fel rhagflas bach i ennyn eich diddordeb, gadewch inni nodi eto ychydig o gwestiynau diddorol o ganlyniad i ymchwil briodol yn y maes.

A all dyfarniadau ddarparu tystiolaeth gadarn am hawlwyr ac achosion? Pa mor gydnaws yw defnyddio data cyfiawnder â chyfraith preifatrwydd a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data mewn technoleg gyfreithiol, a beth byddai'r sylfaen gyfreithiol wrth brosesu data cyfiawnder testunol? A ellir defnyddio algorithmau gwneud penderfyniadau mewn cyfraith gyhoeddus, pa risgiau sydd ynghlwm, a yw tuedd algorithmig yn beryglus, ac os felly, a yw'n fwy peryglus na thuedd dynol? A yw systemau ADM yn dryloyw? A ddylai'r wybodaeth gyfreithiol graidd newid, neu a ddylai sefydliadau roi i fyfyrwyr sgiliau amgen er mwyn eu paratoi ar gyfer gofynion y farchnad yn y dyfodol?

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed rhagor am y materion hyn, a hoffech wylio'r seminarau a recordiwyd, maent i gyd wedi'u recordio ac maent ar gael ar wefan Prifysgol Rhydychen yma

Next
Next

Digwyddiad SRA Caerdydd 21 Hydref 2021:Arloesedd: Troi Syniadau Busnes yn Realiti