Gŵyl Technoleg er budd Cymdeithasol

Cymerodd ein Prif Ddatblygwr Meddalwedd ran mewn panel a drafododd ei waith ar yr ap Include Journey UK, y cyfeiriwyd ato mewn astudiaeth achos flaenorol. Y digwyddiad hwn oedd Gŵyl Technoleg 2021 a gynhaliwyd gan Ganolfan Gydweithredol Cymru. Dyma ddatganiad y panel: "Ein nod yw creu prototeipiau technoleg gyfreithiol a meddalwedd i helpu gydag ystod o bethau yn y sector cyfreithiol, o fynediad at gyfiawnder, i ddysgu peirianyddol a phrosesu dogfennau." 

Mae Canolfan Gydweithredol Cymru'n sefydliad cydweithredol nid-er-elw sy'n cefnogi pobl yng Nghymru i wella eu bywydau a'u bywoliaethau.  

Ers dros ddegawd rydym wedi bod yn helpu pobl i feithrin sgiliau digidol sylfaenol er mwyn iddynt gael mynediad at wybodaeth, gwasanaethau a swyddi.  Ar ben ein gwaith ar gynhwysiant digidol, rydym yn gweithio gyda'r sector elusennau a busnesau cymdeithasol i'w helpu i fanteisio ar dechnoleg ddigidol er budd cymdeithasol. 

Mae 'Tech for Good' yn disgrifio mudiad a chymuned o bobl sydd am fanteisio ar dechnoleg er mwyn cael effaith gymdeithasol gadarnhaol.

Ei nod yw chwilio am atebion technolegol er mwyn gwneud pethau'n well i bobl, cymdeithas a'r blaned ac wrth wraidd hyn yw'r ymrwymiad i roi pobl yn gyntaf. Mae nifer y bobl a sefydliadau sy'n meddwl ac yn gweithredu ar yr egwyddor hon yn cynyddu ac mae'r math o weithgarwch maent yn cymryd rhan ynddo yn esblygu drwy'r amser.

Llwyddodd y digwyddiad hwn i hyrwyddo ymhellach ein gwaith gyda'r Trydydd Sector ac wrth fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol. 

Previous
Previous

Gwobr Efydd Athena Swan

Next
Next

Cynllun Cynaliadwyedd a Lles