Gwobr Efydd Athena Swan

Dyfarnwyd Gwobr Efydd Athena Swan i Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton i gydnabod ei gwaith tuag at hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac amrywiaeth yn ehangach ac am nodi'r heriau sy'n berthnasol i'r adran a'r disgyblaethau a mynd i'r afael â hwy. Bu gan Sara Correia rôl allweddol yn y gwaith dadansoddi a delweddu data hanfodol a wnaed wrth gwblhau'r cais am y wobr. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddi, crynhoi a chyfleu data ar ganlyniadau myfyrwyr, yn ogystal â recriwtio staff a dilyniant gyrfaol yn yr adran ac ar draws ein rhaglenni astudio ac ymchwil, er mwyn rhoi tystiolaeth o'n safle presennol a chreu cynllun gweithredu wedi'i seilio ar dystiolaeth er mwyn cynyddu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn yr ysgol.  Bydd y wobr hon yn ddilys tan fis Ebrill 2025.

Ers amser maith ym Mhrifysgol Abertawe rydym wedi bod yn falch o'n cysylltiad â menter Athena SWAN. Mae ein Prifysgol wedi bod yn aelod ers 2008 ac yn 2017, ni oedd y sefydliad Addysg Uwch cyntaf yng Nghymru i ennill gwobr arian Siarter Athena SWAN ar lefel prifysgol. Nod cychwynnol y gwobrau oedd dileu rhwystrau i gynnydd i fenywod mewn pynciau STEMM, ond erbyn heddiw mae'r gwobrau wedi ehangu i gydnabod y gwaith a wneir i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau'n fwy eang.  

Mae cael y Siarter a gweithio tuag at y gwobrau amrywiol yn ein helpu i fodloni gofynion a disgwyliadau rhai cynghorau ymchwil a chyllidwyr, ac rydym yn gwybod hefyd ei fod yn ffactor sylweddol wrth ddenu staff a myfyrwyr. Yn bwysicaf oll, mae ein llwyddiant Athena Swan parhaus yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb a darparu amgylchedd cynhwysol a chefnogol sy'n galluogi'n holl staff a myfyrwyr i wireddu eu potensial llawn.

Un o’n darlithwyr mewn Seiberfygythiadau, Dr Sara Correia, ddadansoddodd yr holl ddata, gan gynnwys y graffiau a’r ystadegau am y cyflwyniad hwn i Athena Swan. Roedd hyn yn golygu archwilio’r data am dderbyn myfyrwyr a deilliannau myfyrwyr ac yna asesu’r data am ddilyniant a recriwtio staff. Popeth am amrywiaeth rhywiau. Mae’n benodol i’r Ysgol. O ganlyniad, mae Sara bellach yn rhan o bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran.

Previous
Previous

Apêl y Nadolig Mr X

Next
Next

Gŵyl Technoleg er budd Cymdeithasol