Cynllun Cynaliadwyedd a Lles

0_swell-logo-updated_.png

Mae SWELL yn gynllun Cynaliadwyedd a Lles sy'n gwobrwyo staff ym Mhrifysgol Abertawe am gymryd camau cadarnhaol.

Bydd unigolion yn ennill Pwyntiau Gwyrdd am gymryd y camau cadarnhaol hyn mewn nifer o weithgareddau cynaliadwyedd a lles. Mae'r holl bwyntiau'n cronni ac yn cyfrannu at gyfanswm unigol a thîm - pan fydd unigolion yn actifadu eu cyfrif, cânt eu rhoi mewn grŵp wrth ochr aelodau staff eraill o'u coleg neu uned gwasanaeth proffesiynol, yn ogystal ag is-dîm llai.

Mae nifer o weithgareddau y bydd pobl yn gallu ennill Pwyntiau Gwyrdd ar eu cyfer, ac maent oll wedi'u rhannu'n wyth thema:

Mae Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru wedi sefydlu ei is-dîm ei hun ar SWELL fel y gallwn fonitro gweithredoedd y Labordy'n benodol. Rydym wedi annog holl aelodau'r Labordy i ymuno a chofnodi eu gweithredoedd. Freya Michaud yw hyrwyddwr SWELL.

Mae hyn yn perthyn yn uniongyrchol i'r Thema Drawsbynciol o Ddatblygu Cynaliadwy drwy annog aelodau o Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru i fonitro eu gweithredoedd cynaliadwy a gwella'n barhaus.

Previous
Previous

Gŵyl Technoleg er budd Cymdeithasol