Sut y gellir defnyddio apiau i gefnogi ymataliad rhag troseddu a gwella lles?

include-text.png

Fel rhan o Wythnos Digwyddiadau'r Haf Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, ar 21 Mehefin 2021, gwnaethom gynnal y panel:  Sut y gellir defnyddio apiau i gefnogi ymataliad rhag troseddu a gwella lles?

Ar hyn o bryd, nid yw asiantaethau cyfiawnder troseddol - yn y DU ac yn rhyngwladol - yn llwyr ymwybodol o'r cyfleoedd y mae technolegau digidol yn eu cynnig i wella darparu gwasanaethau a bywydau defnyddwyr gwasanaethau a’u cymunedau ehangach. Hyd yn hyn, ychydig iawn o arloesi digidol a welwyd ym maes gwaith sy’n ymwneud ag ymataliad.  Mae pandemig Covid wedi tynnu sylw at yr angen i wasanaethau cyfiawnder troseddol/cymorth ddefnyddio technolegau digidol i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd darparu gwasanaethau rheng flaen a darparu cymorth ar-lein pan na fydd cymorth wyneb i wyneb yn bosib.

Canolbwyntiodd y digwyddiad ar y cydweithrediad rhwng Dr Gemma Morgan, Include UK a Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, sydd wedi arwain at gyd-gynhyrchu'r platfform 'My Journey'. Mae My Journey yn blatfform pwrpasol ac arloesol sy'n cefnogi defnyddwyr gwasanaeth a sefydliadau i gefnogi ymataliad rhag troseddu a gwella lles.  Trafododd y digwyddiad gryfderau a chyfleoedd gweithio traws-sector a rhyngddisgyblaethol i ddatblygu technolegau digidol arloesol ar sail tystiolaeth.  Hefyd trafododd yr ystyriaethau moesegol ac ymarferol sydd ynghlwm wrth ddatblygu technolegau digidol.

Siaradwyr:

• Dr Gemma Morgan, Adran Droseddeg, Prifysgol Abertawe

• Phil Reynolds, Prif Ddatblygwr Meddalwedd, Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru

• Mellissa Berry, Cyfarwyddwr/Rheolwr yr Hyb, Include UK

Gallwch wylio fideo o drafodaeth y panel ar ein sianel YouTube yma: https://youtu.be/pFdySGqzH7w

Previous
Previous

Cynllun Cynaliadwyedd a Lles