Prosiect Journey Include UK

include logo.png

Ar hyn o bryd, nid yw asiantaethau cyfiawnder troseddol yn y DU ac yn rhyngwladol yn llwyr ymwybodol o'r cyfleoedd y mae technolegau digidol yn eu cynnig i wella darparu gwasanaethau a bywydau defnyddwyr gwasanaethau. O ganlyniad, ychydig iawn o arloesi digidol a welwyd ym maes adsefydlu troseddwyr. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder (2019) yn amcangyfrif mai cost economaidd a chymdeithasol aildroseddu yw £18.1 biliwn y flwyddyn. Am y rhesymau hyn, nod y prosiect hwn yw datblygu technolegau digidol i gefnogi ymataliad rhag troseddu a gwella bywydau pobl sydd wedi cyflawni tramgwyddau a'u cymunedau ehangach. 

Mae gan Dr Gemma Morgan gydweithrediad ymchwil hirsefydlog gydag Include UK (http://include-uk.com) - sefydliad trydydd sector sy'n darparu cymorth ar gyfer ystod o boblogaethau sy'n cyflawni tramgwyddau. Trwy'r cydweithrediad hwn, y nod yw rhoi technolegau digidol ar waith sy'n gallu cefnogi ymataliad. Rhagwelir y gellir defnyddio'r technolegau hyn ar draws y sector mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Mae cefnogi pobl i ymatal rhag troseddu yn broblem fyd-eang. Ar lefel genedlaethol, mae tystiolaeth o ganrannau uchel o gyfraddau ail-droseddu a phoblogaethau uchel mewn carchardai. Mae cefnogi newid cymdeithasol cadarnhaol ymhlith troseddwyr yn her i sefydliadau cyfiawnder statudol, preifat a thrydydd sector.

Mae datblygu a gweithredu technolegau digidol o ran adsefydlu troseddwyr yn faes arloesol. Ar hyn o bryd, ychydig iawn neu ddim arloesi o gwbl sydd yn y maes hwn. O ganlyniad, gellir datblygu ystod o dechnoleg i gefnogi sefydliadau eraill a'r rhai sy'n defnyddio eu gwasanaethau. Er enghraifft:

• Datblygu apiau adborth defnyddwyr gwasanaeth neu dudalennau gwe i lywio a gwella darparu gwasanaethau

• Meddalwedd i olrhain taith yr unigolyn i ymataliad, y gellir ei ddefnyddio hefyd i nodi ffactorau risg ar gyfer troseddu er mwyn teilwra cymorth ac ymyriadau. Gall defnyddwyr y gwasanaeth ddefnyddio hyn i olrhain eu taith a'u lles eu hun a gall gweithwyr proffesiynol cyfiawnder troseddol ei ddefnyddio i gefnogi pobl yn effeithiol. 

Mae hyn yn perthyn yn uniongyrchol i'r Thema Drawsbynciol o Fynd i'r Afael â Thlodi ac Allgáu Cymdeithasol drwy gynorthwyo wrth ailintegreiddio troseddwyr mewn cymdeithas a'u helpu i gael mynediad at y cymorth y mae ei angen arnynt, er mwyn lleihau'r posibiliad y byddant yn profi tlodi ac allgáu cymdeithasol. 

Previous
Previous

Cynnydd Dangosydd Prosiect