Arloesi

Mae’r sector cyfreithiol yn wynebu heriau o bwys wrth dramwyo’r cyfleoedd a gyflwynir gan Technoleg Gyfreithiol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth glòs â chwmnïau cyfreithiol, busnesau newydd, sefydliadau cyhoeddus a rhai’r trydydd sector at ddeall yn well eu persbectifau a’u heriau unigryw a datblygu prototeipiau a datrysiadau i gynorthwyo’r sector i fabwysiadu Technoleg Gyfreithiol.

Ein nod yw hyrwyddo cydweithrediad arloesol rhwng ymarferwyr y gyfraith, academyddion a thrydydd partïon eraill, gan gynnwys partneriaid mewn technoleg a gwneuthurwyr polisi, gan greu gofod lle gallwn ymateb ar y cyd i rychwant o heriau sy’n flaenoriaeth i’r sector cyfreithiol, megis trawsnewidiad digidol gwasanaethau cyfreithiol craidd, amddiffyn hawliau dynol a mynediad at gyfiawnder.

Rydym yn coleddu ac yn hyrwyddo syniadau arloesol, yn meithrin diwylliant o gynhwysiant yn y gymuned Technoleg Gyfreithiol eginol, ac yn datblygu adnoddau addysgol i hybu dealltwriaeth well o Technoleg Gyfreithiol ar draws y diwydiant.

Gan fyfyrio ar effaith technolegau ar y sector cyfreithiol,  bwriedwn helpu i osod seiliau’r drafodaeth ar lefel polisi gyda golwg ar feithrin a chryfhau sector cyfreithiol ffyniannus, yng Nghymru a’r tu draw,  sy’n cyflawni trawsnewidiad economaidd a chymdeithasol.

Rydym am fod yn gyfeirbwynt i unrhyw ymarferydd neu weithiwr proffesiynol perthnasol arall, boed yn rhan o gwmni cyfreithiol bach neu fawr, sydd am ddysgu rhagor am Technoleg Gyfreithiol a chwarae rhan ynddi. Credwn yn daer fod angen datblygu cymuned Technoleg Gyfreithiol agored, gynhwysol a chydweithredol, lle y bydd gan bob un ran bwysig i’w chwarae.

Research image our work.jpg

Themâu ymchwil yn Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton

CANOLFAN CYFIAWNDER TROSEDDOL A THROSEDDEG

Canolbwynt i waith ymchwil i faterion ynghylch trosedd a chyfiawnder

CANOLFAN YMCHWIL I SEIBERFYGYTHIADAU (CYTREC)

Asesu ac ymateb i fygythiadau yn y seiberofod

CLINIG Y GYFRAITH ABERTAWE

Cyngor cyfreithiol am ddim, ar y campws, gan fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol pro bono.

ARSYLLFA HAWLIAU DYNOL PLANT

Ymchwil, trafodaeth, addysg a chyfnewidfa wybodaeth ynghylch plant a phobl ifanc.

SEFYDLIAD Y GYFRAITH AR FORGLUDIANT A MASNACH RHYNGWLADOL

Sefydlwyd i hybu ymchwil o’r safonau uchaf i feysydd morgludiant a masnach rhyngwladol.

Ymchwil

Cefnogir gwaith y Lab gan y gwaith ymchwil blaen y gad i Technoleg Gyfreithiol a ddatblygwyd gan Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â cholegau eraill yn y Brifysgol a sawl sefydliad partnerol arall yn y Deyrnas Unedig a thramor

Wrth adeiladu ar sylfaen y gwaith ymchwil yma a chydweithio â rhanddeiliaid ar draws y byd academaidd a’r sectorau preifat a chyhoeddus, mae’r Lab yn hyrwyddo ymchwil drwyadl a thrawsnewidiol ym maes Technoleg Gyfreithiol i dechnolegau newydd, gan astudio’r posibiliadau o’u rhoi ar waith yn y sector cyfreithiol a’u heffaith arno. Rydym yn ehangu terfynau ymchwil draddodiadol hefyd trwy ddefnyddio

technolegau newydd (e.e. data mawr, dysgu peirianyddol, safoni a phrosesu iaith naturiol), i gynorthwyo academyddion ac ymarferwyr sy’n magu mewnwelediadau newydd ar sail data i wybodaeth gyfreithiol (cyfraith achosion, deddfwriaeth, cyngor cyfreithiol ac yn y blaen).

Mae ein gwaith aml-themaol yn cwmpasu meysydd megis:

  • Rheoleiddio technolegau newydd

  • Newidiadau yn y proffesiwn cyfreithiol a ysgogir gan Technoleg Gyfreithiol

  • Cysyniadau ac egwyddorion cyfreithiol newydd ar gyfer technolegau newydd

  • Dadansoddeg gyfreithiol a gwyddor data

  • Hawliau digidol

  • Cyfiawnder algorithmig

  • Safoni wrth wneud defnydd o wybodaeth gyfreithiol

  • Awtomateiddio trwyddedu a rheoli eiddo deallusol

  • Hygyrchedd ymchwil i Technoleg Gyfreithiol

  • Y gadwyn flociau a chytundebau call 

Addysg

Ein nod yw cynorthwyo cyfreithwyr y presennol a’r dyfodol i chwarae rôl weithgar wrth lunio dylanwad Technoleg Gyfreithiol ar y proffesiwn

I’r perwyl hwn rydym yn datblygu adnoddau addysgol arloesol ar y cyd â phartneriaid allanol, er budd y gymuned gyfreithiol a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth hefyd â chwmnïau cyfreithiol a sefydliadau allanol i greu cyfleoedd i weithwyr proffesiynol a myfyrwyr i ymgyfarwyddo â Thechnoleg Gyfreithiol trwy gyfrwng interniaethau, gweminarau a chyfleoedd eraill i ymgysylltu.

Trwy goleddu ymrwymiad creadigol i’r gyfraith, dymunwn gydrannu’r profiad o ddatblygu ac ymchwilio i ddatrysiadau a datblygiadau mewn Technoleg Gyfreithiol, gan rymuso pawb i ddeall, defnyddio a datblygu Technoleg Gyfreithiol yn eu hymarfer.

Cynorthwyir y Lab hefyd gan y gymuned Technoleg Gyfreithiol fywiog yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, a lansiodd y cwrs cyntaf yng ngwledydd Prydain i ôl-raddedigion mewn Technoleg Gyfreithiol yn 2018. Hyrwyddir y radd LLM mewn Technoleg Gyfreithiol gan bartneriaeth unigryw rhwng y Gyfraith a Chyfrifiadureg; mae’n cynnig i gyfreithwyr y cenedlaethau newydd y sgiliau hanfodol i harneisio grym technoleg yn y proffesiwn cyfreithiol.